CELG(4) WPL 22

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru

Ymateb gan Rondo Media

 

Gweinyddu’r Uwch Gynghrair

Rondo Media – Cyflwyniad cyffredinol

Rondo Media yw un o brif cwmniau cynhyrchu Cymru gyda swyddfeydd yng Nghaernarfon, Caerdydd a Phorthaethwy.   Mae’r cwmni yn cynhyrchu rhaglenni a deunydd arlein ym meysydd chwaraeon, drama, cerddoriaeth a digwyddiadau, cyfresi plant, adloniant a ffeithiol.   Mae cynyrchiadau diweddar y cwmni yn cynnwys y gyfres ddrama ieuenctid Rownd a Rownd, y gyfres ddrama ar gyfer BBC 1 The Indian Doctor, a’r gyfres bêl-droed Sgorio.   Bellach, mae gan y cwmni drosiant blynyddol gwerth dros £14miliwn.

Fe enillodd Rondo gytundeb sylweddol i gynhyrchu cyfresi newydd sbon i bobl ifanc, gan gynnwys y ddrama Gwlad yr Astra Gwyn, a’r sioeau stiwdio Gwefreiddiol a Fi Di Duw.   Fe enillodd ein cyfres ddrama ar gyfer BBC 1, The Indian Doctor, wobrau RTS a Broadcast.  Mae’r cwmni wedi cynhyrchu ffilm o ddehongliad trawiadol Michael Sheen o ddrama’r Dioddefaint ym Mhort Talbot; The Gospel of Us.  Yn ogystal, mae’r cwmni newydd ennill ei gomisiwn cyntaf gyda Channel 4, fel rhan o’r gyfres Cutting Edge

Ffurfiwyd Rondo ym mis Ebrill 2008 wrth i ddau o gwmnïau cynhyrchu annibynnol mwyaf profiadol Cymru Ffilmiau’r Nant ac Opus TF ddod at ei gilydd.     Comisiwn sylweddol cyntaf y cwmni oedd cytundeb pedair blynedd i ddarlledu gemau Uwch Gynghrair Cymru a gemau pêl-droed rhynwgladol.     Erbyn hyn mae Rondo wedi dyblu o ran maint a nifer staff.  Mae’r gyfres ddrama ieuenctid boblogaidd Rownd a Rownd bellach i’w gweld ddwy waith bob wythnos ar S4C.  Rydym hefyd yn cyd-gynhyrchu cyfres ddigwyddiadau S4C sy’n teithio ledled Cymru a darllediadau o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar gyfer S4C a BBC Cymru.

Llwyddodd y cwmni i fod yn rhan o gynllun ‘Talent Attraction Scheme’ Llywodraeth Cynulliad Cymru a Skillset; cynllun XM25 y BBC a chynllun Alpha Fund Channel 4.  Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn cyflogi dros 60 o aelodau staff parhaol a hyd at 150 o weithwyr rhan amser a llawrydd.  Yn ddiweddar, fe fuddsoddodd y cwmni £650,000 mewn swyddfeydd ac adnoddau ôl-gynhyrchu newydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd. 

 

Sgorio – 1988 – 2008

Darlledwyd y rhifyn cyntaf o Sgorio ar y 5ed o Fedi 1988. Er bod yna bwyslais o’r cychwyn ar gemau pêl-droed  cyfandirol o Sbaen a’r Eidal, roedd y cyfresi cyntaf yn cynnwys amrywiaeth eang o wahanol gampau gan gynnwys, rygbi 13eg, ralio, hoci iâ, dringo, canwio a rafftio a llawer mwy.

Ar ôl sawl cyfres lwyddiannus, penderfynwyd canolbwyntio’n llwyr ar bêl-droed yn unig, gyda’r pwyslais ar gynghreiriau Sbaen, Yr Eidal a’r Almaen. Daeth brand Sgorio yn bwysig iawn i S4C gan ddenu gwylwyr di-Gymraeg yng Nghymru a thros y ffin yn Lloegr. 

 

 

 

 

Sgorio 2008 - heddiw

Ym 2008 enillodd Rondo drwy broses tendr agored S4C, yr hawl i gynhyrchu darllediadau gemau  Uwch Gynghrair Cymru , Cwpan Cymru, ac uchafbwyntiau gemau cartref rhyngwladol Cymru, ac ambell gêm rhyngwladol Cymru oddi cartref, dan frand Sgorio.

Nod tîm Sgorio o’r cychwyn oedd i ddarparu cynhyrchiadau gyda gwerthoedd cynhyrchu uchel tra yn cyflenwi rhaglenni gwerth am arian i S4C. Dan yr hen drefn dan adain y BBC cyn tymor 2008/09, roedd Uwch Gynghrair Cymru yn cael ei darlledu am hanner awr ar nos Sadwrn dan y brand Y Clwb Pêl-droed ar S4C. Roedd y darllediad yn cynnwys un prif gêm  a goliau o un neu ddwy gêm arall.

Roedd ‘na deimlad cryf gan dîm Sgorio, os oedd y cynghrair i’w gymryd o ddifri o safbwynt cynhyrchiad teledu a hygrededd cyffredinol bod angen recordio pob gêm gynghrair, gan sicrhau cofnod o bob prif ddigwyddiad a chreu archif o werth hanesyddol ac o ddatblygiad y cynghrair. Y dyhead oedd y byddai Sgorio/Rondo yn cyflawni hyn cyn diwedd y cyfnod hawlaiu o bedair blynedd. Y gwir yw, y cyflawnwyd tipyn mwy na hyn drwy anogaeth a chefnogaeth S4C, swyddogion Uwch Gynghriar Cymru a’r clybiau.

Er cychwyn tymor 2010, darlledir un gêm o Uwch Gynghrair Cymru neu Gwpan Cymru yn fyw ar brynhawn dydd Sadwrn, gydag uchafbwyntiau pob gem o UGC a chwaraewyd dros y penwythnos yn cael ei darlledu ar raglen awr Sgorio am 10 ar nos Lun. (Symudwyd Sgorio i nos Fawrth am 6.30 am ½ awr yr wythnos rhwng mis  Mawrth a chanol Mai 2012).

Yn ogystal â thair awr o ddarlledu byw ar brynhawn Sadwrn a lle amlwg i Uwch Gynghrair Cymru yn y Sgorio awr ar nos Lun, mae ‘na fersiwn deg munud o Sgorio yn ymddangos yn wythnosol fel rhan o ddarpariaeth S4C i blant a phobl ifanc dan faner Stwnsh.

Er y newidiadau yn y cyfnod hwn mae Sgorio nos Lun a Sgorio Stwnsh wedi cadw elfen a theimlad rhyngwladol i’r cyfresi drwy barhau i ddangos uchafbwyntiau La Liga, sef prif gynghrair Sbaen fel rhan o’r arlwy. Mae hyn wedi sicrhau dilyniant sy’n galluogi’r gwylwyr i weld rhai o chwaraewyr, clybiau a stadiymau gorau’r Byd ochr yn ochr ag  Uwch Gynghrair Cymru, ac er syndod i rai mae’r ddau yn gorwedd yn ddigon cyfforddus.

 

Sgorio – I’r Dyfodol

Mae Sgorio yn croesawu’r cyfle i wella ac ehangu’r gwasanaeth o Uwch Gynghrair Cymru. Rydym bellach yn yr oes aml blatfform o ran cynnwys, ac mae’n bwysig i’r ddarpariaeth yr ydym yn cyflenwi  adlewyrchu’r newid ym mhatrwm gwylio y defnyddwyr a’u dulliau o ddod o hyd i gynnwys. Ein dyhead y tymor nesaf yw y bydd ambell gêm nos Wener (yn ogystal â’r brif gêm fyw) yn cael ei gweddarlledu’n fyw, ac rydym eisoes wedi cynnal profion llwyddiannus i’r perwyl hwn. Mae ein tîm cynhyrchu cynnwys eisoes yn gweithio ar ddarparu App Sgorio fydd yn borthladd ychwanegol i ddilynwyr y cynghrair. Rydym hefyd yn datblygu system “widget” fydd yn galluogi clybiau i gael gafael ar ddeunydd fideo o’u gemau i’w dibenion nhw ei hunain (hyfforddi, safleoedd gwe, ayyb).

Mae’r datblygiadau yma wrth gwrs yn ddibynnol ar sicrhau digon o gyllid i’w gwireddu, ond yn gyfle i’r darlledwr lawn ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i hybu’r gyfres a chyrhaeddiad y clybiau a’r cynghrair led led Cymru. Credwn bod y datblygiadau darlledu diweddar o gyfleu gêm fyw yn wythnosol ar S4C wedi bod yn gam mawr i’r cynghrair. Mae cael y darlledwr, a’r cymeriadau poblogaidd sy’n cyfrannu i’r rhaglenni yn rhan annatod o Uwch Gynghrair Cymru, yn cynyddu proffil y cynghrair.

 

Un datblygiad hanfodol yw sicrhau bod gan ardaloedd clybiau’r cynghrair systemau band llydan sydyn addas. Byddai hyn yn galluogi darlledwyr i weddarlledu, ac i’r clybiau ddosbarthu gwybodaeth berthnasol gydag asiantaethau’r wasg ac ati, yn newyddion, sgoriau, canlyniadau ac yn y blaen mewn modd dibynadwy a chyson.   

 

O safbwynt cynhyrchu deunydd teledu ac aml blatfform o’r safon uchaf o Uwch Gynghrair Cymru mi fyddai chwistrelliad o arian yn golygu:

1. Sicrhau adnoddau safonol ar gyfer darlledu o’r caeau – e.e gantris teledu o’r safon angenrheidiol.

 2. Sicrhau mannau pwrpasol i osod camerau o gwmpas y caeau ac ardaloedd penodedig i gyflwyno ohonynt.

3. Cyswllt band llydan cyflymdra uchel at ddeunydd y cynhyrchiad, fydd wrth gwrs o fydd i’r clwb a’r gymuned leol gyfan.

4. Gwaith cynnal a chadw cyffredinol a datblygu adnoddau’r clwb at ddibenion y tîm a’r gymuned.

 

Prif ofidiau cyffredinol eraill

1. Diffyg llwyddiant cyson clybiau Uwch Gynghrair Cymru yng nghystadleuthau Ewropeaidd. Mae canlyniadau clybiau pob cynghrair yng nghystadleuathau Ewrop yn arwain at greu tabl llwyddiant yn ôl gwledydd. Ar hyn o bryd mae Cymru yn rhif 46 o’r 53 gwlad ar y rhestr, tra bo Cyprus sy’n wlad llai o lawer yn  rhif 16 – poblogaeth 1,099,341. Cynghreiriau gwledydd eraill â llai o boblogaeth na Chymru sy’n uwch na ni ar restr UEFA yw Latfia, Macedonia, Slofenia,  Montenegro,  Malta, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein.

2. Prinder torfeydd yn y gemau. Diffyg ymdeimlad o ddigwyddiad cymdeithasol yn y cymunedau.

3. Diffyg uchelgais cyffredinol clybiau'r isadrannau i wella eu hadnoddau a cheisio am y drwydded ddomestig er mwyn ennill dyrchafiad i’r brif adran. Diffyg amrywiaeth o dymor i dymor yng nghyfansoddiad clybiau’r cynghrair, yn arwian at ddiffyg amrywiaeth o gemau.

4. Ansawdd y caeau. Mae safon y cynnyrch, sef chwarae pêl-droed, yn ddibynnol ar ansawdd y caeau, ac er bod cyflwr cae ambell glwb wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, yn gyffredinol mae angen gwella mawr ar ansawdd caeau yng Nghymru

5. Pêl-droed yr Haf – Cafwyd digon o sylwadau ynglŷn â’r ystyriaeth i’r fenter hon, ond fawr o dystiolaeth/ymchwil manwl ynglŷn â chynhaliaeth ac ymarferoldeb y fenter.

.

 

 

Emyr Davies    Rondo Media  Mai 10, 2012